5 “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Bydda i'n dy gywilyddio di –yn codi dy sgert dros dy wyneb;bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noetha theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!
6 Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben,a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe.
7 Fydd neb yn gallu edrych yn hir –Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,‘Mae Ninefe'n adfeilion,a does neb yn cydymdeimlo!’Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”
8 Wyt ti'n saffach na Thebes,ar lan yr afon Nil?Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o'i chwmpas,a'r afon fel rhagfur iddi.
9 Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica;roedd ei grym yn ddi-ben-draw!– mewn cynghrair â Pwt a Libia.
10 Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,a'i phlant bach eu curo i farwolaethar gornel pob stryd.Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig,ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.
11 Byddi dithau hefyd yn feddwac wedi dy faeddu.Byddi dithau'n ceisio cuddiorhag y gelyn.