Ruth 1 BNET

Trasiedi'r teulu wnaeth symud i wlad Moab

1 Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â'i wraig a'i ddau fab gydag e.

2 Elimelech oedd enw'r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion oedd enwau'r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw'n mynd i wlad Moab ac yn aros yno.

3 Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a'i gadael hi yn weddw gyda'i dau fab.

4 Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall). Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd,

5 dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr.

Ruth yn aros gyda Naomi

6 Tra roedd hi'n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i'w bobl. Felly, dyma hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab.

7 Dyma nhw'n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a cychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda.

8 Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw.

9 A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi'ch dwy briodi eto.”Wedyn dyma Naomi yn cusanu'r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw'n dechrau crïo'n uchel.

10 “Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.”

11 Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Alla i byth gael meibion eto i chi eu priodi nhw.

12 Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i'n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau'n cael gŵr heno ac yn cael plant,

13 fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi'n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.”

14 Dyma nhw'n dechrau crïo'n uchel eto. Wedyn dyma Orpa'n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio'n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael.

15 Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.”

16 Ond atebodd Ruth, “Paid pwyso arna i i dy adael di a troi cefn arnat ti. Dw i am fynd i ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi.

17 Ble bynnag fyddi di yn marw, dyna ble fyddai i yn marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni'n dwy.”

18 Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth.

19 A dyma'r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem.Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?”

Naomi a Ruth yn cyrraedd Bethlehem

20 A dyma hi'n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‛Naomi‛. Galwch fi'n ‛Mara‛. Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i yn chwerw iawn.

21 Roedd fy mywyd i yn llawn pan es i oddi yma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi'n ‛Naomi‛, pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a'r Un sy'n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”

22 Felly daeth Naomi yn ôl o wlad Moab, gyda'i merch-yng-nghyfraith, Ruth, y Foabes. Dyma nhw'n cyrraedd Bethlehem ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.

Penodau

1 2 3 4