15 Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a peidiwch â'i dwrdio hi.
16 Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o'r ysgubau a'i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.”
17 Felly buodd Ruth wrthi'n casglu grawn nes iddi nosi.Wedi iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi ei gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd!
18 Dyma hi'n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi ei gasglu. A dyma Ruth yn rhoi'r bwyd oedd ganddi dros ben ers amser cinio hefyd.
19 Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot!” A dyma Ruth yn esbonio ble roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai.
20 “Bendith Duw arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.”
21 Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’”