2 Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i'r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.”“Dos di, fy merch i,” meddai Naomi.
3 A dyma Ruth yn mynd i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech.
4 A pwy fyddai'n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw.A dyma nhw'n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!”
5 A dyma Boas yn gofyn i'r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae'r ferch acw'n perthyn?”
6 “Hi ydy'r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw.
7 “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i'r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi'n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.”
8 A dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o'r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda'r merched sy'n gweithio i mi.