20 “Bendith Duw arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.”
21 Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’”
22 A dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel na fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.”
23 Felly dyma Ruth yn aros gyda morynion Boas.Buodd yn casglu grawn tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith. Ond roedd hi'n byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.