9 Sylwa ble fyddan nhw'n gweithio, a'u dilyn nhw. Bydda i'n siarsio'r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A pan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o'r llestri fydd fy ngweision i wedi eu llenwi.”
10 Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?”
11 “Dw i wedi clywed am y cwbl wyt i wedi ei wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr di farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti.
12 Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dan ei adain e rwyt wedi dod i gysgodi.”
13 Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Rwyt ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er mod i'n neb o'i gymharu â'r merched sy'n gweithio i ti.”
14 Amser bwyd, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi'n eistedd gyda'r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi ei grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i'w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben.
15 Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a peidiwch â'i dwrdio hi.