15 Yna dwedodd, “Tyrd, estyn y siôl wyt ti'n ei gwisgo. Dal hi allan.” Dyma hi'n gwneud hynny, a dyma Boas yn rhoi tua 35 cilogram o haidd iddi, ac yna ei godi ar ei hysgwydd. A dyma Ruth yn mynd adre.
16 Pan gyrhaeddodd adre dyma Naomi, ei mam-yng-nghyfraith, yn gofyn iddi, “Sut aeth hi, merch i?” Dyma Ruth yn dweud am bopeth oedd y dyn wedi ei wneud iddi.
17 Ac meddai, “Mae e wedi rhoi'r haidd yma i mi – mae tua 35 cilogram! Dwedodd wrtho i. ‘Dwyt ti ddim yn mynd yn ôl at dy fam-yng-nghyfraith yn waglaw,’”
18 Ac meddai Naomi, “Disgwyl di, merch i, i ni gael gweld sut fydd pethau yn troi allan. Fydd y dyn yma ddim yn gorffwys nes bydd e wedi setlo'r mater heddiw.”