3 Dos i ymolchi, rhoi colur, a gwisgo dy ddillad gorau, ac wedyn mynd i lawr i'r llawr dyrnu. Ond paid gadael iddo wybod dy fod ti yno nes bydd e wedi gorffen bwyta ac yfed.
4 Yna, pan fydd e'n setlo i lawr i gysgu, sylwa ble mae e'n gorwedd. Dos ato a choda'r dillad wrth ei goesau, a gorwedd i lawr. Bydd e'n dweud wrthot ti beth i'w wneud.”
5 Cytunodd Ruth,
6 ac aeth i lawr i'r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi.
7 Ar ôl bwyta ac yfed roedd Boas yn teimlo'n fodlon braf. Aeth i gysgu wrth ymyl pentwr o ŷd. Dyma Ruth yn mynd ato yn ddistaw bach a chodi'r dillad wrth ei goesau a gorwedd i lawr.
8 Ganol nos dyma Boas yn aflonyddu ac yn troi drosodd a ffeindio merch yn gorwedd wrth ei draed.
9 “Pwy wyt ti?” gofynnodd iddi. “Ruth, dy forwyn di,” atebodd. “Wnei di ofalu amdana i? Ti ydy'r perthynas agosaf, sy'n gyfrifol am y teulu.”