5 Cytunodd Ruth,
6 ac aeth i lawr i'r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi.
7 Ar ôl bwyta ac yfed roedd Boas yn teimlo'n fodlon braf. Aeth i gysgu wrth ymyl pentwr o ŷd. Dyma Ruth yn mynd ato yn ddistaw bach a chodi'r dillad wrth ei goesau a gorwedd i lawr.
8 Ganol nos dyma Boas yn aflonyddu ac yn troi drosodd a ffeindio merch yn gorwedd wrth ei draed.
9 “Pwy wyt ti?” gofynnodd iddi. “Ruth, dy forwyn di,” atebodd. “Wnei di ofalu amdana i? Ti ydy'r perthynas agosaf, sy'n gyfrifol am y teulu.”
10 “Bendith Duw arnat ti, merch i,” meddai Boas. “Ti'n dangos cymaint o ymroddiad. Mae beth wyt ti'n wneud nawr yn well na'r hyn wyt wedi ei wneud yn barod. Gallet ti fod wedi mynd ar ôl un o'r dynion ifanc, boed hwnnw'n dlawd neu'n gyfoethog.
11 Nawr te, merch i, paid poeni. Bydda i'n gwneud popeth rwyt ti wedi ei ofyn i mi. Mae'r dre i gyd yn gwybod dy fod ti'n ferch dda.