3 Wedyn dyma fe'n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi'n gwerthu'r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni.
4 Roeddwn yn meddwl y dylwn adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a'r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau ei brynu e, cymera fe, os nad wyt ti gad i mi wybod. Gen ti mae'r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.”A dyma'r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.”
5 Wedyn dyma Boas yn dweud, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.”
6 “Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.”
7 (Dyma oedd y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. Dyna oedd y ffordd yn Israel o gadarnhau y cytundeb.)
8 Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas.
9 Felly dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon.