14 a'r llywodraethwyr sydd wedi eu penodi ganddo i gosbi pobl sy'n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy'n gwneud da.
15 (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau'r bobl ffôl sy'n deall dim.)
16 Dych chi'n rhydd, ond peidiwch defnyddio'ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw,
17 ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu'r ymerawdwr.
18 Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri – nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon.
19 Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin.
20 Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw.