1 Pedr 5 BNET

At arweinwyr yr eglwys a'r rhai ifanc

1 Gair i chi sy'n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy'n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia'n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i'r golwg!):

2 Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny'n frwd, dim am eich bod chi'n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu.

3 Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy'n eich gofal chi, ond eu harwain trwy fod yn esiampl dda iddyn nhw.

4 Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo.

5 Ac wedyn chi'r rhai ifanc. Dylech chi fod yn atebol i'r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.”

6 Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi.

7 Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi.

8 Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae'ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu.

9 Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi'n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy'r byd i gyd yn dioddef yr un fath.

10 Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog.

11 Fe sydd biau'r grym i gyd, am byth! Amen!

Cyfarchion i gloi

12 Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn.

13 Mae'r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi eu dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd.

14 Cyfarchwch eich gilydd mewn ffordd sy'n dangos cariad go iawn. Dw i'n gweddïo y bydd pob un ohonoch chi sy'n perthyn i'r Meseia yn profi ei heddwch dwfn.

Penodau

1 2 3 4 5