8 Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda'ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â'ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â'ch gilydd.
9 Peidiwch talu'r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi eich enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi.
10 Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da, rhaid i chi reoli'ch tafod. Dweud dim byd cas am neb, a stopio twyllo.
11 Trowch gefn ar ddrygioni a gwneud daioni; gwnewch eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.
12 Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn gwrando'n astud ar eu gweddïau nhw; ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”
13 Does neb yn gallu gwneud niwed go iawn i chi os dych chi'n frwd i wneud daioni.
14 Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy'n iawn, cewch eich bendithio'n fawr gan Dduw. “Peidiwch eu hofni nhw a peidiwch poeni.”