5 Ond bydd rhaid iddyn nhw wynebu Duw, yr un sy'n mynd i farnu pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw.
6 (Dyna pam y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi i'r rhai sydd wedi marw. Er eu bod nhw wedi eu cosbi yn y bywyd hwn ac wedi marw fel pawb arall, byddan nhw'n cael byw gyda Duw drwy'r Ysbryd!)
7 Bydd popeth yn dod i ben yn fuan. Felly cadwch eich meddwl yn glir ac yn effro wrth weddïo.
8 Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau.
9 Agorwch eich cartrefi i'ch gilydd – bod yn groesawgar, a peidio cwyno.
10 Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni trwy wasanaethu pobl eraill.
11 Dylai pwy bynnag sy'n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo'i ddweud. Dylai pwy bynnag sy'n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda'r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a'i addoli drwy'r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau'r anrhydedd i gyd, a'r grym hefyd, a hynny am byth! Amen!