7 A dyna sut daethoch chi'ch hunain i fod yn esiampl i'r holl gredinwyr yn Macedonia ac Achaia.
8 Yn wir, dych chi wedi peri bod pobl sy'n byw'n llawer pellach na Macedonia ac Achaia wedi clywed neges yr Arglwydd. Mae pobl ym mhob man wedi dod i glywed sut daethoch chi i gredu yn Nuw. Does dim rhaid i ni ddweud dim byd am y peth!
9 Mae pobl yn siarad am y fath groeso gawson ni gynnoch chi. Maen nhw'n sôn amdanoch chi'n troi cefn ar eilun-dduwiau a dod i addoli a gwasanaethu'r Duw byw ei hun – y Duw go iawn!
10 Maen nhw hefyd yn sôn am y ffordd dych chi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Mab Duw yn dod i'r golwg eto o'r nefoedd. Ie, Iesu, yr un gafodd ei godi yn ôl yn fyw, ac sy'n ein hachub ni rhag cael ein cosbi pan fydd Duw yn barnu'r byd.