1 Thesaloniaid 3 BNET

1 Doeddwn i ddim yn gallu diodde'r disgwyl dim mwy. Dyma ni'n penderfynu anfon Timotheus atoch chi, ac aros ein hunain yn Athen.

2 Mae'n brawd Timotheus yn gweithio gyda ni i rannu'r newyddion da am y Meseia, a byddai e'n gallu cryfhau eich ffydd chi a'ch calonogi chi,

3 rhag i'r treialon dych chi'n mynd trwyddyn nhw eich gwneud chi'n ansicr. Ac eto dych chi'n gwybod yn iawn fod rhaid i ni sy'n credu wynebu treialon o'r fath.

4 Pan oedden ni gyda chi, roedden ni'n dweud dro ar ôl tro y bydden ni'n cael ein herlid. A dyna'n union sydd wedi digwydd, fel y gwyddoch chi'n rhy dda!

5 Dyna pam allwn i ddim dioddef disgwyl mwy. Roedd rhaid i mi anfon Timotheus i weld a oeddech chi'n dal i sefyll yn gadarn. Beth petai'r temtiwr wedi llwyddo i'ch baglu chi rywsut, a bod ein gwaith ni i gyd wedi ei wastraffu?

Adroddiad calonogol Timotheus

6 Ond mae Timotheus newydd gyrraedd yn ôl, ac wedi rhannu'r newyddion da am eich ffydd chi a'ch cariad chi! Mae'n dweud bod gynnoch chi atgofion melys amdanon ni, a bod gynnoch chi gymaint o hiraeth amdanon ni ag sydd gynnon ni amdanoch chi.

7 Felly, ffrindiau annwyl, yng nghanol ein holl drafferthion a'r holl erlid dŷn ni'n ei wynebu, dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr am fod eich ffydd chi'n dal yn gryf.

8 Mae gwybod eich bod chi'n aros yn ffyddlon i'r Arglwydd wedi'n tanio ni â brwdfrydedd newydd.

9 Sut allwn ni ddiolch digon i Dduw amdanoch chi? Dych chi wedi'n gwneud ni mor hapus!

10 Ddydd a nos, dŷn ni'n gweddïo'n wirioneddol daer y cawn ni gyfle i ddod i'ch gweld chi eto, i ddysgu mwy i chi am sut mae'r rhai sy'n credu i fyw.

11 Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw ein Tad, a'n Harglwydd Iesu Grist, yn ei gwneud hi'n bosib i ni ddod atoch chi'n fuan.

12 A bydded i'r Arglwydd wneud i'ch cariad chi at eich gilydd, ac at bawb arall, dyfu nes ei fod yn gorlifo! – yn union yr un fath â'n cariad ni atoch chi.

13 Dŷn ni eisiau iddo eich gwneud chi'n gryf. Wedyn byddwch yn ddi-fai ac yn sanctaidd o flaen ein Duw a'n Tad pan fydd ein Harglwydd Iesu'n dod yn ôl gyda'i angylion, a gyda'r holl bobl sy'n perthyn iddo.

Penodau

1 2 3 4 5