1 A ffrindiau, dych chi'ch hunain yn gwybod bod ein hymweliad ni ddim wedi bod yn wastraff amser.
2 Er ein bod ni wedi dioddef a chael ein cam-drin yn Philipi, dyma Duw yn rhoi'r hyder i ni i fynd ymlaen i rannu ei newyddion da gyda chi, er gwaetha'r holl wrthwynebiad.
3 Doedden ni ddim yn dweud celwydd wrth geisio'ch argyhoeddi chi, nac yn gwneud dim o gymhellion anghywir, nac yn ceisio'ch tricio chi.
4 Na, fel arall yn hollol! Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges am fod Duw wedi'n trystio ni gyda'r newyddion da. Dim ceisio plesio pobl dŷn ni'n ei wneud, ond ceisio plesio Duw. Mae e'n gwybod beth sy'n ein calonnau ni.
5 Dych chi'n gwybod ein bod ni ddim wedi ceisio'ch seboni chi. A doedden ni ddim yn ceisio dwyn eich arian chi chwaith – mae Duw'n dyst i hynny!
6 Doedden ni ddim yn chwilio am ganmoliaeth gan bobl – gynnoch chi na neb arall.
7 Gallen ni fod wedi gofyn i chi'n cynnal ni, gan ein bod ni'n gynrychiolwyr personol i'r Meseia, ond wnaethon ni ddim. Buon ni'n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron.