13 Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni'n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn – neges gan Dduw, dim syniadau dynol. Ac mae'n amlwg fod Duw ar waith yn eich bywydau chi sy'n credu.
14 Ffrindiau, mae'r un peth wedi digwydd i chi ag a ddigwyddodd i eglwysi Duw yn Jwdea sy'n gwasanaethu'r Meseia Iesu. Mae eich pobl eich hunain wedi gwneud i chi ddioddef yn union fel gwnaeth yr arweinwyr Iddewig iddyn nhw ddioddef.
15 Nhw ydy'r bobl laddodd yr Arglwydd Iesu a'r proffwydi, a nhw sy'n ein herlid ni bellach. Maen nhw'n gwneud Duw yn ddig! Maen nhw'n elynion i'r ddynoliaeth gyfan
16 am eu bod nhw'n ceisio ein rhwystro ni rhag cyhoeddi'r newyddion da er mwyn i bobl o genhedloedd eraill gael eu hachub. Maen nhw'n pentyrru eu pechodau yn ddiddiwedd wrth ymddwyn fel yma. Ond mae cosb Duw'n mynd i'w dal nhw yn y diwedd.
17 Ffrindiau, yn fuan iawn ar ôl i ni gael ein gwahanu oddi wrthoch chi (dim ond yn gorfforol – achos roeddech chi'n dal ar ein meddyliau ni), roedden ni'n hiraethu am gael eich gweld chi eto. Roedden ni'n benderfynol o ddod yn ôl i'ch gweld chi.
18 Dw i, Paul, wedi bwriadu dod sawl tro, ond mae Satan wedi'n rhwystro ni.
19 Wedi'r cwbl, chi sy'n rhoi gobaith i ni! Chi sy'n ein gwneud ni mor hapus! Chi ydy'r goron fyddwn ni mor falch ohoni pan safwn ni o flaen ein Harglwydd Iesu ar ôl iddo ddod yn ôl!