12 Ffrindiau annwyl, dŷn ni am i chi werthfawrogi'r bobl hynny sy'n gweithio'n galed yn eich plith chi. Maen nhw'n gofalu amdanoch chi ac yn eich dysgu chi sut i fyw yn ffyddlon i'r Arglwydd.
13 Dylech chi wir eu parchu nhw a dangos cariad mawr tuag atyn nhw o achos y gwaith maen nhw'n ei wneud. Dylech fyw'n heddychlon gyda'ch gilydd.
14 A ffrindiau annwyl, dŷn ni'n apelio ar i chi rybuddio'r bobl hynny sy'n bod yn ddiog, annog y rhai sy'n ddihyder, helpu'r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb.
15 Peidiwch gadael i bobl dalu'r pwyth yn ôl i eraill. Ceisiwch wneud lles i'ch gilydd bob amser, ac i bobl eraill hefyd.
16 Peidiwch byth â stopio gorfoleddu!
17 Daliwch ati i weddïo.
18 Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.