15 Peidiwch gadael i bobl dalu'r pwyth yn ôl i eraill. Ceisiwch wneud lles i'ch gilydd bob amser, ac i bobl eraill hefyd.
16 Peidiwch byth â stopio gorfoleddu!
17 Daliwch ati i weddïo.
18 Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
19 Peidiwch bod yn rhwystr i waith yr Ysbryd Glân.
20 Peidiwch wfftio proffwydoliaethau.
21 Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy'n dda.