19 Peidiwch bod yn rhwystr i waith yr Ysbryd Glân.
20 Peidiwch wfftio proffwydoliaethau.
21 Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy'n dda.
22 Cadwch draw oddi wrth bob math o ddrygioni.
23 Dw i'n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy'n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi'n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl.
24 Mae'r Duw sy'n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd yn gwneud hyn.
25 Gweddïwch droson ni, ffrindiau.