23 Dw i'n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy'n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi'n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl.
24 Mae'r Duw sy'n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd yn gwneud hyn.
25 Gweddïwch droson ni, ffrindiau.
26 Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad.
27 Dw i'n eich siarsio chi ar ran yr Arglwydd ei hun i wneud yn siŵr fod y Cristnogion i gyd yn clywed y llythyr yma yn cael ei ddarllen.
28 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol mae ein Harglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.