3 Bydd pobl yn dweud, “Mae pethau'n mynd yn dda,” a “Dŷn ni'n saff,” ac yn sydyn bydd dinistr yn dod. Bydd yn dod mor sydyn â'r poenau mae gwraig yn eu cael pan mae ar fin cael babi. Fydd dim dianc!
4 Ond dych chi ddim yn y tywyllwch, ffrindiau, felly ddylai'r diwrnod hwnnw ddim dod yn annisgwyl fel lleidr yn eich profiad chi.
5 Plant y goleuni ydych chi i gyd! Plant y dydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i'r nos a'r tywyllwch.
6 Felly rhaid i ni beidio bod yn gysglyd fel pobl eraill. Gadewch i ni fod yn effro ac yn sobr.
7 Mae pobl yn cysgu yn y nos, ac mae pobl yn meddwi yn y nos.
8 Ond dŷn ni'n perthyn i'r dydd. Gadewch i ni fyw'n gyfrifol, wedi'n harfogi gyda ffydd a chariad yn llurig, a'r gobaith sicr y cawn ein hachub yn helmed.
9 Dydy Duw ddim wedi bwriadu i ni gael ein cosbi, mae wedi dewis ein hachub ni drwy beth wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist.