5 Plant y goleuni ydych chi i gyd! Plant y dydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i'r nos a'r tywyllwch.
6 Felly rhaid i ni beidio bod yn gysglyd fel pobl eraill. Gadewch i ni fod yn effro ac yn sobr.
7 Mae pobl yn cysgu yn y nos, ac mae pobl yn meddwi yn y nos.
8 Ond dŷn ni'n perthyn i'r dydd. Gadewch i ni fyw'n gyfrifol, wedi'n harfogi gyda ffydd a chariad yn llurig, a'r gobaith sicr y cawn ein hachub yn helmed.
9 Dydy Duw ddim wedi bwriadu i ni gael ein cosbi, mae wedi dewis ein hachub ni drwy beth wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist.
10 Buodd e farw yn ein lle ni, er mwyn i ni gael byw gydag e am byth – ie, ni sy'n dal yn fyw a hefyd y rhai sydd wedi marw.
11 Felly calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu'ch gilydd.