1 Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol y Meseia Iesu – wedi fy anfon gan y Duw sy'n ein hachub ni, a'r Meseia, yr un mae'n gobaith ni ynddo.
2 Timotheus, rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni.
3 Fel y gwnes i pan roeddwn i'n teithio i dalaith Macedonia, dw i'n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy'n dysgu pethau sydd ddim yn wir,
4 yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu.