1 Timotheus 2 BNET

Addoliad Cywir

1 O flaen popeth arall dw i'n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo'n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw.

2 Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus.

3 Mae gweddïo felly yn beth da i'w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi'n hachub ni.

4 Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.

5 Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn.

6 Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu'r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn.

7 A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy'n wir, a'r angen i gredu yn Iesu Grist. A'r gwir dw i'n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd!

8 Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i'r dynion sy'n gweddïo fyw bywydau sy'n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau.

9 A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig,

10 ond gwneud daioni. Dyna sy'n gwneud gwragedd sy'n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol.

11 Rhaid i wraig, wrth gael ei dysgu, fod yn dawel a dangos ei bod yn barod i ymostwng yn llwyr.

12 Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel.

13 Adda gafodd ei greu gyntaf, ac wedyn Efa.

14 A dim Adda gafodd ei dwyllo; y wraig oedd yr un gafodd ei thwyllo, a throseddu.

15 Ond byddai hi'n cael ei hachub drwy'r plentyn oedd i'w eni. Dylen nhw ddal ati i gredu, dangos cariad, byw bywydau glân a bod yn ddoeth.

Penodau

1 2 3 4 5 6