16 Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i'n esiampl berffaith o'r math o bobl fyddai'n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol.
17 Mae e'n haeddu ei anrhydeddu a'i foli am byth bythoedd! Fe ydy'r Brenin am byth! Fe ydy'r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy'r unig Dduw sy'n bod! Amen!
18 Timotheus, fy mab, dw i'n rhoi siars i ti (yn gyson â beth sydd wedi ei broffwydo amdanat ti): Mae'n bwysig dy fod ti'n ymladd yn dda yn y frwydr.
19 Dal dy afael yn beth rwyt ti'n ei gredu, a chadw dy gydwybod yn lân. Mae rhai wedi dewis peidio gwneud hynny, ac o ganlyniad mae eu ffydd wedi ei dryllio.
20 Mae Hymenaeus ac Alecsander yn enghreifftiau o'r peth. Dw i wedi eu taflu nhw allan o'r eglwys er mwyn iddyn nhw ddysgu peidio cablu.