2 Timotheus, rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni.
3 Fel y gwnes i pan roeddwn i'n teithio i dalaith Macedonia, dw i'n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy'n dysgu pethau sydd ddim yn wir,
4 yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu.
5 Y rheswm pam dw i'n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i'w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw'n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn.
6 Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw'n treulio eu hamser yn siarad nonsens!
7 Maen nhw'n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n sôn amdano er eu bod nhw'n siarad mor awdurdodol!
8 Dŷn ni'n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi'n cael ei thrin yn iawn.