5 Y rheswm pam dw i'n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i'w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw'n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn.
6 Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw'n treulio eu hamser yn siarad nonsens!
7 Maen nhw'n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n sôn amdano er eu bod nhw'n siarad mor awdurdodol!
8 Dŷn ni'n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi'n cael ei thrin yn iawn.
9 Dŷn ni'n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy'n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy'n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy'n lladd eu tadau a'u mamau, llofruddion,
10 pobl sy'n pechu'n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy'n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy'n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i ddysgeidiaeth gywir.
11 Mae dysgeidiaeth felly yn gyson â'r newyddion da sy'n dweud wrthon ni mor wych ydy'r Duw bendigedig! Dyma'r newyddion da mae e wedi rhoi'r cyfrifoldeb i mi ei gyhoeddi.