1 Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da.
2 Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Rhaid iddo fod yn ŵr sy'n ffyddlon i'w wraig, yn ymddwyn yn gyfrifol, yn synhwyrol ac yn gall, yn berson croesawgar, yn gallu dysgu eraill,
3 ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol ond yn deg, ddim yn achosi dadleuon, a ddim yn ariangar.
4 Dylai allu cadw trefn ar ei deulu ei hun, a'i blant yn atebol iddo ac yn ei barchu.
5 (Os ydy rhywun ddim yn gallu cadw trefn ar ei deulu ei hun, sut mae disgwyl iddo ofalu am eglwys Dduw?)