7 Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy'n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw.
8 Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae'n dda i ti yn y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod.
9 Ydy, mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu'r peth.
10 Dyma'r rheswm pam dŷn ni'n dal ati i weithio'n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy'n achub pob math o bobl – pawb sy'n credu.
11 Gwna'n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw.
12 Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di'n ifanc. Bydd yn esiampl dda i'r credinwyr yn y ffordd rwyt ti'n siarad, a sut rwyt ti'n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a'th fywyd glân.
13 Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a'u dysgu nhw.