1 Paid bod yn llawdrwm wrth geryddu dyn sy'n hŷn na ti. Dangos barch ato ac apelio ato fel petai'n dad i ti. Trin y dynion ifanc fel brodyr,
2 y gwragedd hŷn fel mamau, a'r gwragedd ifanc fel chwiorydd (a gofalu dy fod yn cadw dy feddwl yn lân pan fyddi gyda nhw).
3 Dylai'r eglwys ofalu am y gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.
4 Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.
5 Os ydy gweddw mewn gwir angen does ganddi neb i edrych ar ei hôl. Duw ydy ei hunig obaith hi, ac mae hi'n gweddïo ddydd a nos ac yn gofyn iddo am help.
6 Ond mae'r weddw sy'n byw i fwynhau ei hun a chael amser da yn farw'n ysbrydol.