3 Dylai'r eglwys ofalu am y gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.
4 Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.
5 Os ydy gweddw mewn gwir angen does ganddi neb i edrych ar ei hôl. Duw ydy ei hunig obaith hi, ac mae hi'n gweddïo ddydd a nos ac yn gofyn iddo am help.
6 Ond mae'r weddw sy'n byw i fwynhau ei hun a chael amser da yn farw'n ysbrydol.
7 Gwna'n siŵr fod pobl yn yr eglwys yn deall y pethau yma, wedyn fydd dim lle i feio neb.
8 Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu.
9 Ddylai gweddw ddim ond cael ei chynnwys ar restr y rhai mae'r eglwys yn gofalu amdanyn nhw os ydy hi dros chwe deg oed. Rhaid iddi hefyd fod wedi bod yn ffyddlon i'w gŵr,