18 Dywed wrthyn nhw am ddefnyddio'u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser.
19 Wrth wneud hynny byddan nhw'n casglu trysor go iawn iddyn nhw eu hunain – sylfaen gadarn i'r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn.
20 Timotheus, cadw'n saff bopeth mae Duw wedi ei roi yn dy ofal. Cadw draw oddi wrth glebran bydol a'r math nonsens dwl sy'n cael ei alw ar gam yn ‛wybodaeth‛.
21 Dyma beth mae rhai yn ei broffesu, ac wrth wneud hynny maen nhw wedi crwydro oddi wrth beth sy'n wir.Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw!