2 A ddylid dim dangos llai o barch at y meistri hynny sy'n Gristnogion am eu bod nhw'n frodyr. Fel arall yn hollol – dylid gweithio'n galetach iddyn nhw, am fod y rhai sy'n elwa o'u gwasanaeth yn gredinwyr, ac yn annwyl yn eu golwg nhw.Dysga bobl ac annog nhw i wneud hyn i gyd.
3 Mae rhai yn dysgu pethau sydd ddim yn wir, ac sy'n hollol groes i beth ddysgodd ein Harglwydd Iesu Grist – sut mae byw fel mae Duw am i ni fyw.
4 Mae'n amlwg fod person felly yn llawn ohono'i hun ond yn deall dim byd mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod ganddo obsesiwn afiach am godi dadl a hollti blew am ystyr geiriau. Mae'n arwain i genfigen a ffraeo, enllibio, a phobl yn bod yn amheus o'u gilydd.
5 Mae'n achosi dadleuon diddiwedd. Mae meddyliau pobl felly wedi eu llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy'n wir. Dydy byw'n dduwiol yn ddim byd ond ffordd o wneud arian yn eu golwg nhw.
6 Ond mae byw'n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni'n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol.
7 Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.
8 Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.