4 Mae'n amlwg fod person felly yn llawn ohono'i hun ond yn deall dim byd mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod ganddo obsesiwn afiach am godi dadl a hollti blew am ystyr geiriau. Mae'n arwain i genfigen a ffraeo, enllibio, a phobl yn bod yn amheus o'u gilydd.
5 Mae'n achosi dadleuon diddiwedd. Mae meddyliau pobl felly wedi eu llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy'n wir. Dydy byw'n dduwiol yn ddim byd ond ffordd o wneud arian yn eu golwg nhw.
6 Ond mae byw'n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni'n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol.
7 Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.
8 Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.
9 Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio eu bywydau.
10 Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.