7 Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.
8 Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.
9 Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio eu bywydau.
10 Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.
11 Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn.
12 Mae'r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy'r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di'n credu o flaen llawer o dystion.
13 Dw i'n rhoi'r siars yma i ti – a hynny o flaen Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat.