1 Llythyr gan Paul, gafodd ei ddewis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. Wedi fy anfon i ddweud wrth bobl am y bywyd sydd wedi ei addo i'r rhai sydd â pherthynas â Iesu y Meseia,
2 At Timotheus, sydd fel mab annwyl i mi:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu, ein Harglwydd, yn ei roi i ni.
3 Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti – y Duw dw i'n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos.
4 Dw i'n cofio dy ddagrau di pan roeddwn i'n dy adael, a dw i'n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny'n fy ngwneud i'n wirioneddol hapus.
5 Dw i'n cofio fel rwyt ti'n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath.
6 Dyna pam dw i am i ti ailgynnau'r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.