2 Timotheus 4 BNET

1 Y Meseia Iesu ydy'r un fydd yn barnu pawb (y rhai sy'n dal yn fyw a'r rhai sydd wedi marw). Mae e'n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw i'n dy siarsio di

2 i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall – a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i'r gwir.

3 Mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw'n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed.

4 Byddan nhw'n gwrthod beth sy'n wir ac yn dilyn straeon celwyddog.

5 Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy'n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu'r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i ti.

6 Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi ei dywallt ar yr allor fel diodoffrwm. Mae'r amser i mi adael y byd yma wedi dod.

7 Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i'r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon.

8 Bellach mae'r wobr wedi ei chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl.

Sylwadau Personol

9 Gwna dy orau i ddod yma'n fuan.

10 Mae Demas wedi caru pethau'r byd yma – mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia.

11 Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith.

12 Dw i'n anfon Tychicus i Effesus.

13 A pan ddoi di, tyrd â'r fantell adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â'r sgroliau hefyd – hynny ydy, y memrynau.

14 Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae'n ei haeddu.

15 Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni.

16 Ddaeth neb i'm cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi eu cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw.

17 Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn, er mwyn i'r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro!

18 A dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg, ac yn fy arwain yn saff i'r nefoedd ble mae e'n teyrnasu. Mae'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!

Cyfarchion i gloi

19 Cofia fi at Priscila ac Acwila a phawb yn nhŷ Onesifforws.

20 Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus.

21 Plîs gwna dy orau glas i ddod yma cyn i'r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti.

22 Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn di, ac y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw!

Penodau

1 2 3 4