14 Gyda help yr Ysbryd Glân sy'n byw ynon ni, cadw'r trysor sydd wedi ei roi yn dy ofal yn saff.
15 Fel rwyt ti'n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes.
16 Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn arbennig o garedig at Onesifforws a phawb arall yn ei dŷ. Mae e wedi codi fy nghalon i lawer gwaith, a doedd ganddo ddim cywilydd fy mod i yn y carchar.
17 Yn hollol fel arall! – pan ddaeth i Rufain, buodd yn chwilio amdana i ym mhobman nes llwyddo i ddod o hyd i mi.
18 Boed i'r Arglwydd fod yn arbennig o garedig ato ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl! Rwyt ti'n gwybod cymaint o help fuodd e i mi yn Effesus.