2 At Timotheus, sydd fel mab annwyl i mi:Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu, ein Harglwydd, yn ei roi i ni.
3 Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti – y Duw dw i'n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos.
4 Dw i'n cofio dy ddagrau di pan roeddwn i'n dy adael, a dw i'n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny'n fy ngwneud i'n wirioneddol hapus.
5 Dw i'n cofio fel rwyt ti'n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath.
6 Dyna pam dw i am i ti ailgynnau'r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.
7 Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i'n gwneud ni'n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol.
8 Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A paid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da.