4 Dw i'n cofio dy ddagrau di pan roeddwn i'n dy adael, a dw i'n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny'n fy ngwneud i'n wirioneddol hapus.
5 Dw i'n cofio fel rwyt ti'n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath.
6 Dyna pam dw i am i ti ailgynnau'r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.
7 Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i'n gwneud ni'n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol.
8 Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A paid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da.
9 Mae Duw wedi'n hachub ni a'n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â'r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau,
10 a bellach mae haelioni Duw i'w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy'r newyddion da.