6 Dyna pam dw i am i ti ailgynnau'r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.
7 Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i'n gwneud ni'n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol.
8 Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A paid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da.
9 Mae Duw wedi'n hachub ni a'n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â'r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau,
10 a bellach mae haelioni Duw i'w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy'r newyddion da.
11 Dyma'r newyddion da dw i wedi cael fy newis i'w gyhoeddi a'i ddysgu fel cynrychiolydd personol Iesu.
12 Dyna pam dw i'n dioddef fel rydw i. Ond does gen i ddim cywilydd, achos dw i'n nabod yr un dw i wedi credu ynddo. Dw i'n hollol sicr ei fod yn gallu cadw popeth dw i wedi ei roi yn ei ofal yn saff, nes daw'r diwrnod pan fydd e'n dod yn ôl.