9 Mae Duw wedi'n hachub ni a'n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â'r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau,
10 a bellach mae haelioni Duw i'w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy'r newyddion da.
11 Dyma'r newyddion da dw i wedi cael fy newis i'w gyhoeddi a'i ddysgu fel cynrychiolydd personol Iesu.
12 Dyna pam dw i'n dioddef fel rydw i. Ond does gen i ddim cywilydd, achos dw i'n nabod yr un dw i wedi credu ynddo. Dw i'n hollol sicr ei fod yn gallu cadw popeth dw i wedi ei roi yn ei ofal yn saff, nes daw'r diwrnod pan fydd e'n dod yn ôl.
13 Cofia beth wnes i ei ddweud, a'i gadw fel patrwm o ddysgeidiaeth gywir. Dal di ati i gredu ynddo ac i garu eraill am dy fod yn perthyn i'r Meseia Iesu.
14 Gyda help yr Ysbryd Glân sy'n byw ynon ni, cadw'r trysor sydd wedi ei roi yn dy ofal yn saff.
15 Fel rwyt ti'n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes.