1 Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di'n gryf.
2 Dywed di wrth eraill beth glywaist ti fi'n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna'r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill.
3 A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia.
4 Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio ei gapten.
5 Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau.
6 A'r ffermwr sy'n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o'r cnwd.
7 Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd.