13 Os ydyn ni'n anffyddlon,bydd e'n siŵr o fod yn ffyddlon;oherwydd dydy e ddim yn gallugwadu pwy ydy e.
14 Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando.
15 Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti – dy fod di'n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o'i waith. Bydd yn un sy'n esbonio'r gwir yn iawn.
16 Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw.
17 Mae'n rywbeth sy'n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus
18 – maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw'n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl!
19 Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi eu cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.”