19 Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi eu cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.”
20 Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi eu gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu'n llestri pridd. Mae'r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd.
21 Os bydd rhywun yn cadw draw o'r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i'r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da.
22 Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o'i gariad a'i heddwch. Dyma sut mae'r rhai sy'n cyffesu enw'r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn.
23 Paid gwastraffu dy amser gyda rhyw ddyfalu dwl. Dydy pethau felly'n gwneud dim ond achosi gwrthdaro.
24 Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig.
25 Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro'r rhai sy'n tynnu'n groes iddo. Wedi'r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu'r gwir;