3 A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia.
4 Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio ei gapten.
5 Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau.
6 A'r ffermwr sy'n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o'r cnwd.
7 Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd.
8 Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi.
9 A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw!