4 Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio ei gapten.
5 Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau.
6 A'r ffermwr sy'n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o'r cnwd.
7 Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd.
8 Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi.
9 A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw!
10 Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi eu dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol.