8 Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi.
9 A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw!
10 Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi eu dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol.
11 Mae'r hyn sy'n cael ei ddweud mor wir!:Os buon ni farw gyda'r Meseia,byddwn ni hefyd yn byw gydag e;
12 os byddwn ni'n dal ati,byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e.Os byddwn ni'n gwadu ein bod ni'n ei nabod e,bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni;
13 Os ydyn ni'n anffyddlon,bydd e'n siŵr o fod yn ffyddlon;oherwydd dydy e ddim yn gallugwadu pwy ydy e.
14 Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando.